Cyfieithu
Os nad oes siaradwyr Cymraeg rhugl yn eich tîm fferyllfa, neu os nad ydych yn hyderus gyda chyfieithiad, cysylltwch â Swyddog Iaith Gymraeg eich bwrdd iechyd lleol a fydd yn gallu eich cynorthwyo i gyfieithu dogfennau a phresgripsiynau sydd wedi'u hysgrifennu yn y Gymraeg. Gall eich Swyddog Iaith Gymraeg hefyd eich helpu i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg yn eich gweithle.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddog Iaith Gymraeg ar wefan eich bwrdd iechyd lleol.
Rydym yn argymell defnyddio'r llwybrau ffurfiol ar gyfer gwasanaethau cyfieithu trwy eich bwrdd iechyd lleol, er bod llwybrau anffurfiol eraill ar gael o gyfieithu presgripsiwn, e.e., gwasanaethau cyfieithu ar y we, mae'r gwasanaethau hyn yn cynyddu'r risg o gam-gyfieithu ac atebolrwydd ar y defnyddiwr.